Cyfrifiannell i ganfod sawl ystafell wely y bydd gennych hawl iddynt mewn perthynas â’ch Lwfans Tai Lleol neu Eiddo Gymdeithasol ar Rent (Cymdeithas Tai neu debyg)
Er mwyn canfod nifer cywir yr ystafelloedd gwely (hyd at uchafswm o 4) ar eich cyfer, dewiswch yr amgylchiadau sy’n eich disgrifio chi (a’ch teulu, os yn berthnasol) ar y rhestrau isod a gadewch i’r rhaglen gyfrifo’r cyfan i chi. Ar gyfer Lwfans Tai Lleol, bydd llawer o gyfraddau Lwfans Tai Lleol (categorïau) gwahanol, ym mhob ardal felly cyn i chi wirio wythnosol y lwfans (dylai fod ar wefan eich cyngor lleol) mae angen i chi wybod eich categori Lwfans Tai Lleol a bydd hyn yn dibynnu ar nifer yr ystafelloedd gwely sy’n briodol ar gyfer eich aelwyd (chi, eich teulu ac eraill sy’n byw gyda chi).



      a chliciwch i ddangos nifer yr ystafelloedd gwely ar eich cyfer chi

Esboniad o’r rheolau o ran ystafelloedd gwely ar gyfer grwpiau aelwydydd. Un ystafell wely ar gyfer bob un o’r “unedau pobl” canlynol, gan gyfrif un unigolyn unwaith yn unig, yn y grwp cyntaf sy’n cyd-fynd. (a) Cwpl priod neu ddi-briod sy’n byw gyda’i gilydd fel gwr a gwraig neu gwpwl o’r un rhyw mewn partneriaeth sifil neu sy’n byw fel petaent wedi ffurfio partneriaeth o’r fath. (b) Rhywun sy’n 16 oed a throsodd.. (c) Dau blentyn o’r un rhyw sy’n iau nag 16 oed. (d) Dau blentyn sy’n iau na 10 oed. (e) Plentyn(‘plentyn’ yw rhywun o dan 16 oed). Bellach gellir rhoi ystafell wely ychwanegol os oes angen gofalwr dros nos nad yw’n byw yn y ty fel arfer, i ofalu am aelod o’r teulu neu os na ellir disgwyl yn rhesymol i blentyn anabl iawn rannu ystafell wely – ond ni ellir cynnig mwy na’r uchafswm o bedair ystafell wely. Hefyd, mae gofalwyr maeth cymeradwy wedi’u heithrio o’r diffiniad ‘sengl ac o dan 35 oed’.

Ac yn olaf, defnyddiwch y botwm “Yn ôl” ar eich porwr er mwyn dychwelyd at y dudalen we yr ydych newydd ei gadael.

Copyright www.ovaltech.ltd.uk 2014